22 Hydref 2015

Annwyl Gyfaill

Gwaith dilynol ar Ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Wasanaethau Mabwysiadu yng Nghymru

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud gwaith dilynol ar ein hadroddiad ar wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru. Rydym yn gofyn am eich barn ar yr hyn sydd wedi'i gyflawni ers inni gyhoeddi'r adroddiad ym mis Tachwedd 2012.

Yn benodol, rydym yn ceisio eich barn ar y canlynol:

1.  Y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd o ran y 16 argymhelliad a'r 25 o 'gamau gweithredu manwl' a nodir ar dudalennau 5-11 o Adroddiad y Pwyllgor.

2.  Yn ogystal, byddai'r Pwyllgor hefyd yn croesawu eich barn ar yr hyn a gyflawnwyd  yn y meysydd penodol hyn:

a.    recriwtio, asesu a pharatoi rhieni ar gyfer mabwysiadu;

b.   y broses baru a chefnogaeth ar gyfer y trosglwyddo;

c.    y wybodaeth a'r cymorth i blant a phobl ifanc gan gynnwys gwaith o safon uchel ym maes profiadau bywyd; a

d.   chymorth ar ôl mabwysiadu i blant, pobl ifanc a theuluoedd (gan gynnwys cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol, addysg, iechyd a gwasanaethau iechyd meddwl).



Wrth baratoi eich ymateb efallai y byddwch am ystyried a / neu gyfeirio at y canlynol:

·         sefydlu'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn ddiweddar, a'i swyddogaeth 

·         y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y camau a gymerwyd i weithredu'r argymhellion yn yr adroddiad mabwysiadu (Gorffennaf 2015)

[Sylwer: roedd ymchwiliad gwreiddiol y Pwyllgor yn ymwneud â rhai agweddau ar wasanaethau mabwysiadu sydd wedi'u datganoli. Nid oedd yn cynnwys materion nad ydynt wedi'u datganoli, fel y rhai sy'n ymwneud â'r system cyfiawnder teuluol a'r llysoedd.]

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

 

Hoffai'r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo gyda'r gwaith dilynol.  Mae Atodiad 1 yn rhoi gwybodaeth gyffredinol am weithdrefnau'r ymgynghoriad, a dylid ystyried y rhain yn ofalus cyn cyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor.

 

Yn benodol, byddem yn croesawu eich sylwadau ar y cwestiynau a restrir ar y ffurflen atodedig. Dylech ddefnyddio'r ffurflen i gyflwyno eich tystiolaeth.


Mae'r Pwyllgor yn bwriadu ceisio barn mabwysiadwyr a phlant a phobl ifanc i lywio ein gwaith dilynol. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Marc Wyn Jones, Clerc y Pwyllgor ar 0300 200 6565

 

Yn gywir

 

 


Ann Jones AC
Cadeirydd

Atodiad 1

Cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i'r Pwyllgor

Datgelu gwybodaeth 

1.  Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael yma; gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Fel arall, mae croeso i chi gysylltu â'r Clerc i ofyn am gopi caled o'r polisi hwn.

Cyflwyno tystiolaeth

2.  Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o'ch ffurflen i SeneddCYPE@cynulliad.cymru

Fel arall, gallwch ei hanfon at:

Sarah Bartlett, Dirprwy Glerc,
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA.

3.  Dylai eich cyflwyniadau gyrraedd erbyn dydd Gwener 20 Tachwedd 2015.  Efallai na fydd yn bosibl ystyried unrhyw ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

4.  Wrth baratoi eich sylwadau, cadwch y canlynol mewn cof:

 

Canllawiau ar gyfer tystion sy'n darparu tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau

5.  Mae'r Cynulliad yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth hygyrch i'r gynulleidfa ehangaf bosibl.  Diben y canllaw byr hwn yw cynorthwyo tystion sy’n cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau.  Bydd hyn yn galluogi’r Cynulliad i ddarparu gwybodaeth a gyflwynwyd gan eraill mewn modd hygyrch.

·                     Defnyddiwch Gymraeg a Saesneg clir gan osgoi jargon diangen.

·                     Defnyddiwch ffont sydd o leiaf maint 12.

·                     Defnyddiwch Lucida Sans, sy’n ffont clir sans seriff. 

·                     Peidiwch ag ysgrifennu testun dros luniau, graffeg neu ddyfrnodau.

·                     Lliwiau a chyferbyniad - dylai’r ysgrifen gyferbynnu gymaint â phosibl â’r cefndir: ysgrifen dywyll ar gefndir golau, ac ysgrifen olau ar gefndir tywyll.

·                     Peidiwch â defnyddio priflythrennau bloc, a cheisiwch osgoi defnyddio print trwm, print italig a thanlinellu.

·                     Os ydych yn cyfeirio at ddogfen sydd wedi'i chyhoeddi, rhowch hyperlinc at y ddogfen honno.

 

6.  Pryd bynnag y bo modd, dylid darparu gwybodaeth gan ddefnyddio Microsoft Word (ac ar y ffurflen a ddarperir) er mwyn sicrhau ei bod yn hygyrch.  Pan fyddwch chi’n cyflwyno sgan neu ddogfen PDF, yn enwedig llythyrau wedi’u llofnodi neu dablau o wybodaeth, dylech gyflwyno’r ddogfen Word wreiddiol hefyd.

Cyffredinol

7.  Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â buddiant yn y pwnc hwn.  Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.  Mae'r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnir i sefydliadau sydd â pholisïau neu gynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â'u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.

8.  Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ysgrifenedig ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar ar ddyddiadau penodol.

9.  Er gwybodaeth, mae'r Pwyllgor wedi gwahodd amrywiaeth eang o sefydliadau i roi sylwadau, ac mae croeso i chi wneud cais am restr o'r rhain.  Mae copi o’r llythyr hwn hefyd wedi’i roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.